Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig

Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig

Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi cynnal ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

  • Pa mor integredig yw trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol, a pha ffactorau sy’n llesteirio’r broses o’u hintegreiddio?
  • Pa mor llwyddiannus yw polisïau, trefniadau cyfreithiol, trefniadau gweinyddu /  cyflenwi yng Nghymru o ran hybu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig effeithiol sy’n diwallu anghenion teithwyr Cymru?
  • Pa gamau y gellir eu cymryd i greu system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig yng Nghymru?

 

Materion allweddol

Dyma’r materion roedd y Pwyllgor wedi eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn:

  • Sut y gellir hybu a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau  rheilffyrdd, bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion cymunedau a busnesau yn ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd trefol Cymru?
  • Pa mor llwyddiannus yw Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol o ran darparu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig effeithiol?
  • Pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran hybu’r broses o integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus? Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yng Nghymru, ac yn ystyried pa mor ymarferol fyddai gweithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ddiddifidend. Hefyd, mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi nodi ei fod yn ystyried defnyddio partneriaethau a chytundebau o safon i ddarparu gwasanaethau bysiau. I ba raddau fyddai’r cynigion hyn yn creu system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig yng Nghymru?
  • Pa ddulliau arloesol o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru y gellid eu hystyried i greu system fwy integredig?  
  • I ba raddau mae rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig gweithredwyr trafnidiaeth a chyrff cyhoeddus, yn llwyddo i gydweithredu i sicrhau gwasanaeth effeithiol?
  • Sut y gall llwybrau datganoledig Network Rail hybu trafnidiaeth gyhoeddus integredig effeithiol yng Nghymru?
  • Beth yw goblygiadau’r datganiad a gyhoeddodd Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru a Lloegr ar gyfer Cyfnod Rheoli 5, sef High Level Output Specification and Statement of Funds Available, o ran datblygu gwasanaethau rheilffyrdd integredig yng Nghymru?
  • Pa enghreifftiau o arfer dda’n ymwneud ag integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus y gellir eu nodi yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol? 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/04/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau