Geiriad y ddeiseb
Rydym
ni,
sydd wedi
llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cenedlaethol
Cymru I enwi’r A470, yn ei chyfanrwydd, yn
Brif Ffordd
Tywysog Owain Glyndwr er cof am ymgyrch enfawr a
hir yr
arwr cenedlaethol mawr
yma a’i chyd
gymry dewr
i ad-ennill annibyniaeth i Gymru.
Gwybodaeth ategol: GwyMae’r A470 yn ffordd gefnol sy’n rhedeg o Gaerdydd yn De Cymru i Landudno yn y Gogledd. Bu I Lysgenhadaeth Glyndwr lansio ymgyrch yn y flwyddyn 2000 i enwi’r ffordd yn ’Brif Ffordd Owain Glyndwr fel coff teilwng i’n harwr cenedlaethol mwyaf ar achlysur 6oomlwyddiant cychwyniad ei Rhyfel Mawr am Annibyniaeth 1400 - 1421. Bu i’r Cynulliad Cymreig anwybyddu’r apêl yn y flwyddyn 2000 ond nawr, gan fod yna alw o gyfeiriad arall i ran o’r ffordd gael ei alw yn ‘Y Royal Welsh Way’ fel cydnabyddiaeth o’r Catrawd Brenhinol sy’n talu llw o deyrngarwch i Frenhiniaeth a Threfn Loegr sy’n parhau i feddiannu Cymru, mae Llysgenhadaeth Glyndwr wedi penderfynu ail gychwyn yr ymgyrch a lansiwyd gennym yn y flwyddyn 2000 gyda’r ddeiseb arfaethedig yma.
Prif ddeisebydd: Sian Ifan
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 111
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;