Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AC. Roedd Mick Antoniw AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 21 Mawrth 2012. Cafodd ganiatâd gan y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Fil ar 16 Mai 2012. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi ailgyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth am y Bil

Prif ddiben y Bil, pan gyflwynwyd ef, oedd galluogi Gweinidogion Cymru i adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy'n gwneud taliadau digolledu neu sy'n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy'n ymwneud ag asbestos), gostau penodol sy'n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy'n ymwneud ag asbestos.

Cyfnod presennol

Mae’r Bil wedi bod trwy Gyfnod 4. Ceir esboniad o beth sy’n digwydd ym mhob cyfnod yma.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio dadl Cyfnod 3 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) tan yn ddiweddarach. Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu ar 20 Tachwedd 2013.


Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.             

 Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil – 3 Rhagfyr 2012


Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) fel y'i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 3 Rhagfyr 2012

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y BiI

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): 5 Rhagfyr 2012

Geirfa’r Gyfraith - Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)


Cyfnod 1 –
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol


Llythyr ymgynghori

 

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

5 Rhagfyr 2012

10 Ionawr 2013

16 Ionawr 2013

24 Ionawr 2013

7 Chwefror 2013

20 Chwefror 2013 (preifat)

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Llythyr gan Mick Antoniw AC i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 15 Ebrill 2013 (Saesneg yn unig)


Cyfnod 1 –
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol


Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cynod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth 2013.

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth 2013.

 


Cyfnod 2 –
Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 24 Ebrill 2013.

Cofnodion Cryno: 24 Ebrill 2013.

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Ebrill 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 17 Ebrill 2013

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 24 Ebrill 2014

Grwpio Gwelliannau: 24 Ebrill 2014

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Crynodeb 2 y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil


Cyfnod 3 –
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2013.

 

Gohebiaeth rhwng Cymdeithas Yswirwyr Prydain a’r Llywydd

 

Gohebiaeth ymhellach rhwng Cymdeithas Yswirwyr Prydain a’r Llywydd – Tachwedd 2013 (Saesneg yn Unig)


Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Mai 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Mai 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 7 Tachwedd 2013

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 20 Tachwedd 2013

Grwpio Gwelliannau: 20 Tachwedd 2013

 


Cyfnod 4 –
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 20 Tachwedd 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Bil fel y’i pasiwyd


Ar ôl Cyfnod 4

 
Yn ystod y cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos sy’n dilyn pasio’r Bil gan y Cynulliad yng Nghyfnod 4, gall y Cwnsler Cyffredinol neu’r Twrnai Cyffredinol gyfeirio’r cwestiwn a fyddai’r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad at y Goruchaf Lys i gael penderfyniad (adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru). Yn yr un modd, gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud gorchymyn i wahardd Clerc y Cynulliad rhag cyflwyno’r Bil i gael Cydsyniad Brenhinol. Mae esboniad o’r cyfnod hwn ar gael yma.

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 11 Rhagfyr 2013 i'w hysbysu y byddai’n cyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r llythyr hwn ar gael yma, ynghyd a’r ymateb gan y Twrnai Cyffredinol.

 

Gwnaeth y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar yr achos ar 9 Chwefror 2015. Daeth i’r casgliad nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol i ddod â’r Bil i rym ar ei ffurf bresennol.  Mae manylion ar gael yma (gwefan allanol).

 

O dan Reol Sefydlog 26.53, gallai unrhyw Aelod o’r Cynulliad gynnig y bydd y Bil yn symud ymlaen i’r Cyfnod Ailystyried.

 

Mae eglurhad o beth sy’n digwydd yn holl gyfnodau Biliau’r Cynulliad ar gael.

 

Mae'r Bil hwn wedi methu ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ac ni chynhelir unrhyw drafodion pellach ar y Bil hwn (Rheol Sefydlog 26.76)


Gwybodaeth gyswllt

 

Rhif ffôn: 0300 200 6565

E-bost: Cysylltu@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/04/2013

Prif Aelod: Mick Antoniw AS

Dogfennau

Ymgynghoriadau