Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Cyfeiriwyd y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes.

Y Bil

Nod y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yw cynyddu nifer yr organau a'r meinweoedd sydd ar gael at ddibenion trawsblannu, gan gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru.

Cyfnod presennol

Daeth Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 10 Medi 2013.

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil – 3 Rhagfyr 2012


Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) - fel y'i cyflwynwyd (PDF, 115KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 438KB)

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 3 Rhagfyr 2012 (PDF, 125KB)

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF, 73KB)

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): 4 Rhagfyr 2012

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 377KB)

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 19 Hydref 2012

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 3 Rhagfyr 2012

Geirfa’r Gyfraith – Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)


Cyfnod 1 -
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol


Llythyr ymgynghori (PDF, 241KB)

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

5 Rhagfyr 2012
24 Ionawr 2013
30 Ionawr 2013
7 Chwefror 2013
20 Chwefror 2013

28 Chwefror 2013
14 Mawrth 2013 (preifat)

18 Mawrth 2013

19 Mawrth 2013

 

Gohebiaeth y Gweinidog

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 1MB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 573KB)


Cyfnod 1 -
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol


Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ebrill 2013.


Penderfyniad Ariannol


Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ebrill 2013.


Cyfnod 2 -
Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Mai 2013.

Cofnodion Cryno: 22 Mai 2013

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 13 Mai 2013 (PDF, 64KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Mai 2013 (PDF, 77KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 22 Mai 2013 (PDF, 107KB)

Grwpio Gwelliannau: 22 Mai 2013 (PDF, 44KB)

 

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 107KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 457KB)

 

Crynodeb gan y Gwasanaeth Ymchwil o’r newidiadau i’r Bil yn ystod Cyfnod 2

 

Gohebiaeth y Gweinidog

 


Cyfnod 3 -
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Gorffennaf 2013.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Mehefin 2013 (PDF, 99KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 25 Mehefin 2013 (PDF, 90KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 2 Gorffennaf 2013 (PDF, 168KB)

Grwpio Gwelliannau: 2 Gorffennaf 2013 (PDF, 63KB)

 

Gohebiaeth y Gweinidog

 


Cyfnod 4 -
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn


Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 2 Gorffennaf 2013yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Y Bil, fel y’i pasiwyd (PDF, 140KB)

 

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML)


Dyddiad Cydsyniad Brenhinol


Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013.


Gwybodaeth gyswllt

Clerc:
Sarah Beasley

Cyfeiriad Postio:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffacs: 029 2089 8021
E-Bost:
SeneddIechyd@Cynulliad.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/04/2013

Prif Aelod: Mark Drakeford AS

Dogfennau

Ymgynghoriadau