Argyfyngau Sifil yng Nghymru

Argyfyngau Sifil yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Argyfyngau Sifil yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2012. Canfu’r adroddiad fod trefniadau sifil wrth gefn wedi gweithio’n foddhaol yng Nghymru hyd yn hyn pan fu’n rhaid galw arnynt. Mae hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymateb effeithiol a medrus iawn gan y bartneriaeth o sefydliadau sy’n ymateb i achosion difrifol.

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 15 Ionawr 2013 a chynhaliodd ymchwiliad ar sail y materion a godwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

Yn ystod yr ymchwiliad, edrychodd y Pwyllgor ar y materion canlynol:

  • rôl Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran cefnogi sefydliadau sy’n ymwneud â rheoli argyfyngau sifil posibl;
  • golwg gyffredinol ar yr heriau ariannol y mae sefydliadau’n eu hwynebu o ran rheoli argyfyngau sifil posibl;
  • a’r heriau penodol y mae pob sefydliad yn eu hwynebu o ran datblygu a gweithredu cynlluniau argyfwng.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013

Dogfennau