Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Mae’r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i’r ffordd
yr aethpwyd i’r afael â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Arweiniodd hyn yn y pen draw at ailymgynnull y Cynulliad yn ystod y toriad.
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel
a ganlyn:
- Pam yr
oedd Llywodraeth Cymru o’r farn nad oedd yn gallu cyflwyno Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyn iddi gael y trosglwyddiad
ariannol gan y Trysorlys, y cafodd ei gyhoeddi yn y pen draw yn Natganiad
Hydref y Canghellor ar 5 Rhagfyr 2012.
- Faint o
gyfathrebu a fu rhwng Llywodraeth Cymru, y Trysorlys a Swyddfa Cymru er
mwyn datrys y mater hwn, a natur y cyfathrebu hwn.
- Pa wersi
sydd i’w dysgu o’r mater hwn.
Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth
gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, a
bydd yn cyhoeddi ei adroddiad yn fuan.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/05/2013
Dogfennau
- Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor - Adroddiad - Mai 2013
- Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, 5 Tachwedd 2012 (Saesneg yn Unig) PDF 920 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadaol a Deddfwriaethol, 9 Tachwedd 2012 (Saesneg yn Unig) PDF 154 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, 31 Ionawr 2013 (Saesneg yn Unig) PDF 2 MB