P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud y
Nodiadau Canllaw Nodyn Cyngor Technegol Mwynau, yn arbennig y rheini’n ymwneud
â chlustogfa 500 metr o amgylch gweithfeydd brig, yn orfodol yn neddfau
cynllunio Cymru.
Gwybodaeth
ychwanegol: Ar 20 Ionawr 2009, cyflwynodd Jane Davidson, y Gweinidog
Amgylchedd, nodiadau canllaw Cyngor Technegol Mwynau Glo (MTAN) a oedd newydd
eu cyhoeddi, ar gyfer Cymru, a nododd: “.. bydd y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau
Glo yn cyflawni’r addunedau (yn 2008) i gyflwyno Asesiadau Effaith ar Iechyd ar
gyfer ceisiadau glo, ynghyd â chlustogfeydd, a gyda phwyslais ar weithio’n agos
â chymunedau lleol. Mae’n ailddatgan yr ymrwymiad (yn 2008) i glustogfa 500m.”
Yn 2009 nid oedd gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i wneud
ei chanllawiau cynllunio yn ddeddf. Mae ganddi’r pŵer
bellach
Prif ddeisebydd:
Dr John Cox
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013
Nifer y llofnodion: 680. Casglwyd deiseb gysylltiedig 330 o lofnodion
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013
Dogfennau