Ymatebion i'r Arolwg: Plant a Phobl Ifanc
Ymatebion i'r Arolwg: Plant a Phobl Ifanc
Fel rhan o ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y
Bil Teithio Llesol (Cymru), cynhaliodd y Tîm Allgymorth arolwg gan ddefnyddio
holiaduron ar-lein ac ar bapur i ofyn i gyfranogwyr am eu barn a'u harferion o
ran teithio llesol. Yn ôl gofynion y Pwyllgor, plant a phobl ifanc oedd y
gynulleidfa a dargedwyd, yn enwedig y rhai o oedran ysgol uwchradd.
Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd yn
ystod y cyfnod ymgysylltu allanol, sef rhwng 18 Mawrth a 9 Ebrill 2013. Cafwyd
ymatebion hefyd gan gyfranogwyr nad oeddent o'r un oedran â'r grŵp targed.
Darparwyd dadansoddiad o'r ymatebion fesul grŵp oedran.
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/05/2013
Dogfennau