Ymchwiliad i’r achosion o’r frech goch 2013

Ymchwiliad i’r achosion o’r frech goch 2013

Cynhaliwyd ymchwiliad i’r achosion o’r frech goch 2013 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngorffennaf 2013.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i ystyried:

 

  • y ffactorau sydd wedi arwain at yr achosion cyfredol o'r frech goch;
  • y camau a gymerwyd gan weithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, mewn ymateb i'r achosion;
  • y gwersi y gellid eu dysgu er mwyn atal achosion yn y dyfodol.

 

Casglwyd tystiolaeth lafar ar gyfer yr ymchwiliad ar 10 Gorffennaf 2013.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 16 Awst 2013 (PDF, 241 KB) i amlinellu’r materion allweddol a gododd yn ystod ei waith. Ymatebodd y Gweinidog ar 11 Medi 2013 (PDF, 1MB).

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2013

Dogfennau