Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i:

  • archwilio sut y mae'r GIG yn asesu manteision posibl unrhyw dechnolegau meddygol newydd neu amgen;
  • archwilio'r angen i fabwysiadu dulliau mwy cydgysylltiedig o gomisiynu yn y maes hwn, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
  • archwilio sut y mae GIG Cymru yn ymwneud â'r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu / cynhyrchu technolegau meddygol newydd;
  • archwilio'r ffactorau ariannol a all fod yn rhwystr i'r broses o fabwysiadu technolegau meddygol newydd effeithiol, a dulliau arloesol o oresgyn y rhwystrau hyn.

 

Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y Pwyllgor yn hydref 2012 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Sylwch nad oedd y Pwyllgor yn bwriadu trafod mynediad i feddyginiaethau fel rhan o'r ymchwiliad hwn, dim ond technolegau meddygol.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 956KB) ym mis Rhagfyr 2014. Ymatebodd (PDF, 103KB) Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2015.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru ar 25 Chwefror 2015.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau