Lleihau'r risg o strôc - ymchwiliad dilynol

Lleihau'r risg o strôc - ymchwiliad dilynol

Cyflwynodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei ymchwiliad i leihau risg o strôc ym mis Rhagfyr 2011. Canolbwynt yr ymchwiliad oedd archwilio’r ddarpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran gwasanaethau lleihau’r risg o strôc, yn benodol i graffu ar y gwaith o weithredu Cynllun Gweithredu Lleihau Risg o Strôc Llywodraeth Cymru.

 

Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad, nododd y Pwyllgor ei fwriad i ddychwelyd at y pwnc o fewn dwy flynedd er mwyn ystyried ei ganfyddiadau ac argymhellion cychwynnol ymhellach. Defnyddiwyd yr ymchwiliad dilynol hwn i ystyried pa mor effeithiol fu Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r gwendidau mewn gwasanaethau a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor.

 

Caeodd yr ymgynghoriad ar 20 Medi 2013

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi ei ddileu

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/07/2013

Dogfennau