Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi

Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi.

 

Y Cylch Gorchwyl

  • Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi?
  • Pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid yn Llywodraeth y DU (Masnach a Buddsoddi y DU, a Chyllid Allforio y DU)?

 

Materion Allweddol

  • Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi? A yw’n ddigonol? A yw’n cynrychioli gwerth am arian?
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei gweithgareddau masnach a mewnfuddsoddi?
  • A yw dulliau mewnol presennol Llywodraeth Cymru o annog masnach a mewnfuddsoddi yn cynrychioli gwelliant ar y sefydliadau a oedd yn bodoli’n flaenorol i gyflawni’r un swyddogaethau? (h.y. Awdurdod Datblygu Cymru, MasnachCymru Rhyngwladol, ac yn ddiweddarach Busnes Rhyngwladol Cymru)
  • Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o ddatblygu buddsoddiad? (h.y. annog mewnfuddsoddwyr presennol i ailfuddsoddi)
  • Beth yw’r prif rwystrau sy’n wynebu allforwyr posibl? Pa mor effeithiol yw’r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU) i leihau’r rhwystrau hyn (e.e. teithiau masnach, cymorth cyllid allforio)?
  • Pa mor gryf yw’r ‘cynnig’ i fewnfuddsoddi yng Nghymru?
  • I ba raddau y mae yna frand Cymreig ystyrlon ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau