Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i’r cyfleoedd ariannu a fyddai ar gael gan yr UE i sefydliadau yng Nghymru o 2014-2020.

 

Cylch gorchwyl

  • Deall y prif gyfleoedd a fydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru yn sgîl rhaglenni ariannu’r UE ar gyfer 2014-2020 a ddaw o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes.
  • Ystyried i ba raddau y mae Cymru yn defnyddio dull gweithredu effeithiol ar gyfer gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael yn sgîl arian o’r fath, gan gynnwys Strategaeth UE Llywodraeth Cymru, ac i ba raddau y caiff arian yr UE ei gynllunio yng nghylch cyllidebol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
  • Nodi unigolion a sefydliadau sydd wedi cael llwyddiant blaenorol wrth gymryd rhan ym mhrosiectau / rhaglenni / mentrau’r UE, ac ymchwilio i sut y gellid defnyddio eu profiadau a’u galluoedd yn effeithiol yn 2014-20.

 

Ffynonellau Cyllid yr UE a gwmpesir:

  • Cyfleuster Cysylltu Ewrop: yn benodol, y Rhwydweithiau Traws-Ewropeaidd ar gyfer Trafnidiaeth (TEN-T) a’r posibilrwydd i rannau o Gymru a nodwyd ar ‘rwydwaith craidd’ y TEN-T gael mynediad ato.
  • Erasmus+: yn benodol, yr arian ar gyfer symudedd/camau arloesol ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
  • Rhaglenni Cydweithio Rhyngranbarthol (INTERREG):
    • Rhaglen Cydweithio Trawsffiniol Iwerddon-Cymru
    • Rhaglen Cydweithio Trawswladol Ardal yr Iwerydd
    • Rhaglen Cydweithio Trawswladol Gogledd orllewin Ewrop
    • Rhaglen INTERREG V
  • Ewrop Greadigol (ar gyfer y cyfryngau / y diwydiannau creadigol / diwylliant)
  • Rhaglenni perthnasol eraill fel y Rhaglen Cystadleugarwch Mentrau Bach a Chanolig (COSME) a’r Rhaglen ar gyfer Cyflogaeth ac Arloesedd Cymdeithasol.

 

Noder nad aeth yr ymchwiliad hwn i'r afael â phrif Gronfeydd Strwythurol Rhaglenni'r UE a reolwyd yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 na Horizon 2020, gan i’r Pwyllgor gynnal ymchwiliadau iddynt yn y ddwy flynedd flaenorol.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau