Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni
feddygon ym
Meddygfa’r Laurels, Meddygfa Eyton Place a
Chanolfan Feddygol Allt
Goch yn
rhwystredig (fel yr ydych chi mae’n
siwr) oherwydd yr
anawsterau a gawn wrth geisio cynnig
digon o apwyntiadau ar
gyfer ein
cleifion.
Fel y gwyddoch, rydym wedi’n cyfyngu’n llwyr gan faint ein hadeilad ac mae gwir angen symud i safle mwy – mewn Canolfan Gofal Sylfaenol newydd os oes modd.
Mae’r cynnydd yn hyn o beth wedi dod i ben yn dilyn penodiad diweddar y Gweinidog Iechyd newydd a hoffem ddod â’n pryderon i’w sylw.
Gofynnwn i chi arwyddo’r ddeiseb hon i gefnogi’n hymdrechion i brysuro’r broses hon;
“Fel cleifion mewn Meddygfa yn Sir y Fflint, gofynnwn i’n Haelod Cynulliad, Mrs Sandy Mewies, roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd ar fyrder”
Prif ddeisebydd:
Gillian Robinson
Nifer y
deisebwyr:
412
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;