Geiriad y ddeiseb:
Yr ydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio a yw’r strategaethau a’r cynlluniau gweithredu angenrheidiol ar waith gan Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn cyrraedd y targed o ran cyflawni â’r Safonau Canser Cenedlaethol erbyn mis Mawrth 2008 yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru, fel mater o frys.
Prif ddeisebydd:
Rhondda Breast Friends
Nifer y deisebwyr:
43. Yn ychwanegol at hynny, mae’r elusen Rhondda Breast Friends wedi datblygu siartr yn gofyn am welliannau angenrheidiol i wasanaethau gofal canser, ac mae’r siartr wedi cael cefnogaeth 1,475 o lofnodion.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;