Geiriad y ddeiseb:
Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gwrthwynebu, yn y modd cryfaf bosibl, y penderfyniad i gau Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymrwymiad i ailddatblygu’r ysbyty’n cael ei gyflawni gan ddefnyddio arian cyhoeddus, a bod y gwaith ailddatblygu yn arwain at ailwampio ac ailagor Ysbyty Brenhinol Caerdydd fel ysbyty sy’n gweithredu’n llawn, gan gynnwys Uned Damweiniau ac Achosion Brys ac Uned Gofal Dwys ar gyfer poblogaeth Caerdydd a’r cyffiniau, sy’n cynyddu o hyd.
Prif ddeisebydd:
Mrs Breen
Nifer y deisebwyr:
4071
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;