Bil Cynllunio (Cymru) Drafft
Bil Cynllunio (Cymru) Drafft
Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu y
Pwyllgor ar y Bil Cynllunio drafft a'r papur ymgynghori ar gynllunio cadarnhaol
fel a ganlyn:
1.
Ystyried argymhellion o'r
sail dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu cynigion Llywodraeth
Cymru. Mae'r sail dystiolaeth yn
cynnwys:
·
adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar gynllunio;
·
adroddiadau ymchwil a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system gynllunio;
·
adroddiadau ymchwil
perthnasol gan bwyllgorau'r Cynulliad.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar yr argymhellion na chafodd
eu cynnwys, neu'r rhai sydd wedi'u haddasu.
2.
Ystyried cynigion
deddfwriaethol eraill sy'n ymddangos gan Lywodraeth Cymru ac i ba raddau y
mae'n glir sut y maent yn ymwneud â'r cynigion arfaethedig i'r system gynllunio
(yn enwedig Bil yr Amgylchedd a Bil Cenedlaethau'r Dyfodol).
3.
Ystyried argymhellion
adroddiad y Comisiwn Williams ar Gyflenwi a Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau
Cyhoeddus a'i oblygiadau ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'r system
gynllunio.
4.
Ystyried newidiadau
diweddar i'r system gynllunio yn Lloegr a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth
2011 a newidiadau cynllunio diweddar neu arfaethedig yn y gweinyddiaethau
datganoledig eraill, ac i ba raddau y mae newidiadau tebyg yn cael eu cynnig i
Gymru.
5.
Ystyried unrhyw argymhellion gan gomisiwn Silk ynghylch
cynllunio a'r setliad datganoli, os ydynt ar gael mewn pryd, ac i ba raddau y
gall y cynigion yn ‘Cynllunio Cadarnhaol’ / y Bil Cynllunio drafft ymateb i’r
rhain.
Bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth ac yn paratoi adroddiad
erbyn toriad y Pasg i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar
benderfyniadau ynghylch cynnwys terfynol y Bil Cynllunio y disgwylir i'r
Cynulliad ei gyflwyno yn ddiweddarach yn 2014.
Yn
amodol ar gytundeb Pwyllgor Busnes y Cynulliad, bydd y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd wedyn yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio yn
llawn yng Nghyfnod 1 yn ddiweddarach yn 2014.
Adroddiadau sail tystiolaeth:
Ymchwiliad
i bolisïau Cynllunio yng Nghymru
Ymchwiliad
i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru
Tuag
at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol
Dull
Newydd o Reoli Datblygu yng Nghymru: Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru
Cyflenwi
Gwasanaethau Cynllunio mewn Tirweddau sydd wedi'u Pennu'n Statudol yng Nghymru
Ymchwil
i’r Adolygiad o’r System Gorfodi Cynllunio yng Nghymru
Ymchwil
i'r ffordd y mae Pwyllgorau Cynllunio yng Nghymru'n gweithio
Gwerthuso’r
broses caniatâd cynllunio ar gyfer tai
Agweddau’r
cyhoedd tuag at y system gynllunio yng Nghymru
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/03/2014
Dogfennau