Geiriad y
ddeiseb:
Mae’r Gymdeithas Osteoporosis
Genedlaethol yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i weithredu’r safon
ar gyfer
cwympo a thorri esgyrn
yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaetholar gyfer Pobl Hyn yn llawn, gan sicrhau bod cleifion
sydd wedi
torri esgyrn oherwydd
breuder, neu sydd mewn perygl o
wneud hynny, yn cael eu hadnabod, eu
hasesu a’u trin
gan wasanaethau cyswllt
torri esgyrn ym mhob un o’r
Byrddau Iechyd Lleol
newydd. Hoffwn weld gwasanaeth
cyswllt torri esgyrn
yn cael
ei gysylltu
â phob ysbyty sy’n
trin cleifion sydd
wedi torri
esgyrn oherwydd breuder a
gofynnwn i lywodraeth Cymru fynnu
bod gwasanaethau cyswllt torri
esgyrn yn
cael eu
darparu’n gyffredinol ar draws y
gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Prif ddeisebydd:
Y
Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Nifer y
deisebwyr:
28
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Statws: I'w ystyried