Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yng Nghymru, gan gynnwys:

  • A yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r canlyniadau a'r mesurau perfformiad, fel y'u nodir yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, erbyn 2016;
  • Y cynnydd o ran lleihau'r bwlch anghydraddoldebau mewn achosion o ganser a chyfraddau marwolaethau;
  • Effeithiolrwydd gwasanaethau sgrinio ar gyfer canser a lefel y defnydd o fewn poblogaeth Cymru, yn arbennig y grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd;
  • A all cleifion ledled Cymru gael mynediad at y gofal sydd ei angen (er enghraifft, mynediad at brofion diagnostig neu ofal y tu allan i oriau) mewn lleoliad priodol ac mewn modd amserol;
  • Lefel y cydweithio o fewn sectorau, yn arbennig rhwng y GIG a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan dimau amlddisgyblaethol;
  • A yw'r lefel bresennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau canser yn briodol, yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian.

 

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Gweithgareddau ymgysylltu  

 

Nodyn o weithdai a gynhaliwyd ym mis Mai 2014

 

Nodyn ar drafodaeth y grŵp ffocws,14 Mai 2014

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 200KB)

 

Storify

 

Storify gan y Pwyllgor o'i ymchwiliad.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 651KB) yn Hydref 2014. Mae crynodeb o’r adroddiad (PDF, 696KB) ar gael hefyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 197KB) yn Rhagfyr 2014.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn:

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr 2014.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau