Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n cynnal ymgynghoriad ar faterion penodol.

Mae'r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais gan y Prif Weinidog. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn llywio trafodaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys Gorchymyn Anghymhwyso nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd angen penderfynu arno cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw trafod y canlynol:

  • yr egwyddorion sy'n sail i ddynodi'r swyddi sy'n anghymwyso person rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, argymell rhestr newydd o swyddi a'r mathau o gyflogaeth sy'n anghymwyso;
  • yr amser pryd y daw anghymwysiadau i rym;
  • a ddylai'r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac
  • unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystoliaeth am y testun yma

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau