Geiriad y ddeiseb:
Yn dilyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i dynnu arian refeniw oddi ar Theatr Powys o fis Ebrill 2011, rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei gadw ar gyfer Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys. Byddai methu â sicrhau hyn yn arwain at dynnu’r ddwy ddarpariaeth o’r cymunedau a gafodd eu gwasanaethu ganddynt am dri degawd; gan amddifadu pobl ifanc o gyfle sylweddol i ymgysylltu â’r Celfyddydau. Mae Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys hefyd yn un o nifer fach iawn o weithgareddau bugeiliol sydd ar gael i bobl ifanc yr ardal hon.
Prif
ddeisebydd:
Michael
Chadwick
Nifer
y
deisebwyr:
1152
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;