Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn nodi’r cynnig i symud yr uned famolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol, yr uned gofal dwys i’r newydd-anedig a’r uned plant i gleifion mewnol o Ysbyty Brenhinol Amwythig i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford.
Rydym yn credu y byddai hyn yn achosi llawer o galedi a straen i gleifion a’u teuluoedd sy’n teithio o Sir Drefaldwyn. Byddai’n ychwanegu 20 munud at daith sydd eisoes yn cymryd 50 munud ar y gorau, ac mae’n anochel y bydd amseroedd ymateb ambiwlansys yn cynyddu’n sylweddol.
Mae’n hanfodol nad yw’r cynigion hyn yn cael eu hystyried ar wahân i’r cynigion yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru’n mabwysiadu dull strategol o ymdrin â materion iechyd trawsffiniol, er mwyn sicrhau bod anghenion cleifion o ganolbarth Cymru yn cael eu hystyried yn llawn mewn unrhyw gynigion o ran ysbytai dalgylch.
Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ymwneud yn llawn â’r broses ymgynghori ‘Keeping it in the County’, er mwyn sicrhau nad yw cleifion o ganolbarth Cymru o dan anfantais o ganlyniad i unrhyw newidiadau.
Prif ddeisebydd:
Mrs Helen Jervis
Nifer
y
deisebwyr:
164
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;