Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â nhw - Y Pedwerydd Cynulliad

Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â nhw - Y Pedwerydd Cynulliad

O dan rai amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Cynulliad ar rai offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

Yn dilyn argymhelliad yn ein hadroddiad pwyllgor, Ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar 25 Medi 2013 i gyflwyno Rheol Sefydlog 30A i ddarparu gweithdrefn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad mewn perthynas ag offerynnau statudol y DU a wneir gan Weinidogion y DU, os oes angen ei gydsyniad. Mae'r Rheol Sefydlog yn darparu gweithdrefn debyg i honno ar gyfer Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 ond yn ymwneud ag offerynnau statudol yn hytrach na Biliau ac yn cynnwys gofyniad i osod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) a Chynnig Cydsyniad Offeryn Statudol. 

Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol a ystyrir yn unol â Rheol Sefydlog 30A

 

Offerynnau statudol y mae’n rhaid i’r Cynulliad gydsynio â nhw cyn y gellir cyflwyno Rheol Sefydlog 30A

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/04/2014