Gall Aelodau’r Cynulliad sefydlu Grwpiau Trawsbleidiol mewn perthynas ag unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Cynulliad. Rhaid i’r grwp gynnwys Aelodau o dri grwp plaid gwleidyddol a gaiff eu cynrychioli yn y Cynulliad. Nid yw Grwpiau Trawsbleidiol yn grwpiau ffurfiol o’r Cynulliad ac nid ydynt felly’n ddarostyngedig i Reolau Sefydlog y Cynulliad. Nid oes rôl ffurfiol ganddynt mewn datblygu polisi.
Mae’r grwpiau trawsbleidiol a ganlyn wedi cael eu cofrestru ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad: