Carwyn Jones

Teitl: Prif Weinidog

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Pen-y-Bont ar Ogwr

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
Emlyn House
36 Caroline Street
Pen-y-bont
CF31 1DQ

Ffôn:  01656 664320

Ffacs:  01656 669349

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  029 2089 8468

E-bost:  Carwyn.Jones@Cymru.gov.uk

Tymhorau swydd

  • 07/05/1999 - 30/04/2003
  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 -

Gwybodaeth ychwanegol

Cefnidir personol

 

Cafodd Carwyn Jones ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan deulu o siaradwyr Cymraeg. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yna aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

 

Cefndir proffesiynol

 

Hyff orddodd Carwyn fel bargyfreithiwr yn Ysgol y Gyfraith Inns of Court, Llundain a chafodd ei alw i’r Bar yn Gray's Inn ym 1989. Dechreuodd arfer ei grefft fel bargyfreithiwr a bu mewn practis cyfreithiol am 10 mlynedd yn Gower Chambers, Abertawe. Am ddwy flynedd, bu Carwyn yn gweithio, hefyd, fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs Galwedigaethol y Bar

 

Cefndir gwleidyddol

 

Etholwyd Carwyn Jones i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Ym mis Chwefror 2000, cafodd ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir. Cafodd ei benodi’n Weinidog dros Faterion Gwledig ym mis Gorffennaf 2000 ac ym mis Chwefror 2002, daeth yn Weinidog dros Lywodraeth Agored, a bu yn y swydd honno tan etholiad 2003.

 

Ar ôl yr etholiad hwnnw death yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, gan ddal y swydd honno tan fis Mai 2007. Yn dilyn cyfnod byr fel y Gweinidog dros Addysg a Threftadaeth, mae wedi bod yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.

 

Daeth yn Brif Weinidog Cymru ac yn Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009.

 

Bywgraffiad fideo

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help