Rosemary Butler

Teitl: Llywydd

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Gorllewin Casnewydd

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
72 Caerau Road
Newport
Casnewydd
NP20 4HJ

Ffôn:  01633 222523

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  029 2089 8470

E-bost:  Rosemary.Butler@Cymru.gov.uk

Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) :  www.rosemarybutleram.com/

Facebook :  www.facebook.com/pages/Rosemary-Butler-politician/144061692279715

Twitter :  twitter.com/RosemaryButler

Nid yw National Assembly for Wales yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol

Aelodaeth

Tymhorau swydd

  • 07/05/1999 - 30/04/2003
  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 -

Gwybodaeth ychwanegol

Cefndir personol

 

Mae Rosemary Butler wedi bod yn byw yng Nghaerllion, sy’n rhan o etholaeth Gorllewin Casnewydd, ers blynyddoedd lawer ac aeth i Ysgol Uwchradd St Julian's. Mae’n briod ag arlunydd / dylunydd, ac mae ganddi ddwy ferch a phedwar o wyrion. Yn ogystal â’i theulu, mae ei diddordebau’n cynnwys amgueddfeydd ac orielau celf, cyngherddau ac operâu, teithio dramor a hanes teuluol.

 

Cefndir proffesiynol

 

Ymunodd Rosemary â’r Blaid Lafur ym 1971, a dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei hethol yn gynghorydd dros Gaerllion ar Gyngor Bwrdeistref Casnewydd, a bu yn y swydd honno tan 1999. Tra roedd yn Aelod o’r Cyngor, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor

 

Gwasanaethau Hamdden am 12 mlynedd, a bu’n gwasanaethu fel Dirprwy

 

Arweinydd a Maer Casnewydd (1989/1990).

 

Cefndir gwleidyddol

 

Cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad cyntaf Gorllewin Casnewydd ym mis Mai 1999, ac mae wedi cael ei hailethol ym mhob un o etholiadau dilynol y Cynulliad.

 

Cafodd Rosemary ei phenodi i Gabinet cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, fel y Gweinidog dros Addysg cyn-16 a Phlant, a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant , y Gymraeg a Chwaraeon. Rosemary, hefyd, oedd cynrychiolydd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau yr Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd wedi bod yn Ddirprwy Lywydd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 y Cynulliad (a oedd yn craffu ar gynigion y meinciau cefn i gyflwyno Mesurau) a bu’n aelod o Grŵp Trawsbleidiol y Cyngor Prydeinig.

 

Ym mis Mai 2011, cafodd Rosemary ei hethol yn unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hefyd yn cynrychioli'r Cynulliad ar Gymdeithas Seneddol Prydain Iwerddon a CALRE (Llefarwyr Cyrff Deddfwriaethol yn yr Undeb Ewropeaidd).

 

Ymgysylltiadau

 

Mae Rosemary yn Gymrodor er anrhydedd o Brifysgol Cymru, Casnewydd, yn un o gyd-sylfaenwyr a Chadeirydd Cystadleuaeth Ryngwladol Casnewydd ar gyfer Pianyddion Ifanc, yn un o aelodau sefydlu Cymdeithas Efeillio Casnewydd-Kutaisi, Llywydd Cyfeillion Pont Drafnidiaeth Casnewydd, Llywydd Cyngor Cymru dros Ddiogelwch yn y Cartref, Llywydd Clwb Athletau Newport Harriers, aelod oes er anrhydedd o Gyngor Chwaraeon Casnewydd, aelod oes o Glwb Criced Casnewydd, un o aelodau sefydlu Cyfeillion Tŷ Tredegar, Llysgennad y Geidiaid, un o aelodau sefydlu Cymorth i Fenywod Casnewydd, aelod o Gynghrair Rhyngwladol Heddwch a Rhyddid y Menywod ac un o noddwyr Gŵyl Gelfyddydau Caerllion.

 

Bywgraffiad fideo

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help