Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: Cwm Cynon
Cyfeiriad Swyddfa:
Bank Chambers
28a Oxford Street
Aberpennar
CF45 3EU
Ffôn: 01443 478098
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8745
E-bost: Christine.Chapman@Cymru.gov.uk
Facebook : www.facebook.com/christine.chapman.397
Twitter : twitter.com/ChrisChapmanAM
Nid yw National Assembly for Wales yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol
Cafodd Christine Chapman ei hethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol.
Cefndir personol
Ganwyd Christine Chapman yn y Porth, Rhondda. Mae ganddi radd BA (Anrhydedd) mewn Hanes ac Astudiaethau Clasurol o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ac MSc Econ ac MPhil o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiploma o Bolytechnig y South Bank, hefyd, mewn Cynghori Gyrfa.
Cefndir proffesiynol
Ym maes addysg y mae cefndir proffesiynol Christine. Mae wedi gweithio i’r gwasanaeth gyrfaoedd ac i ddwy bartneriaeth addysg busnes. Mae hefyd wedi gweithio fel gweithiwr ieuenctid ac athrawes mewn ysgol uwchradd.
Mae Christine yn credu’n gryf mewn dysgu gydol oes, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu economaidd, cyfle cyfartal, adfywio cymunedol a hanes menywod
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Christine i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys cadeirio Pwyllgor Monitro’r Rhaglen Amcan Un, bod yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, a’r Dirprwy Weinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae Christine hefyd yn cynrychioli Cynulliad Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, ac mae’n Gadeirydd Grŵp Menywod a Democratiaeth y Cynulliad.
Cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad Llafur dros Gwm Cynon, roedd Christine yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ymgysylltiadau
Mae Christine yn Ysgrifennydd Grŵp UNSAIN Llafur ac yn aelod o’r Blaid Gydweithredol. Mae hefyd yn cefnogi ymgyrch “Y Gynghrair Does Dim Curo Plant”.