Jeff Cuthbert

Teitl: Y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Caerffili

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
Bargoed YMCA
Aeron Place
Gilfach
Bargoed
CF81 8JA

Ffôn:  01443 838542

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  029 2089 8314

E-bost:  Jeff.Cuthbert@Cymru.gov.uk

Tymhorau swydd

  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Cefndir personol

 

Cafodd Jeff Cuthbert ei eni yn Glasgow cyn symud i Gaerdydd gyda’i rieni a chael ei addysg yn Ysgol Uwchradd Fodern Sirol Yr Eglwys Newydd. Aeth ymlaen wedyn i astudio Peirianneg Mwyngloddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

 

Cefndir proffesiynol

 

Dechreuodd gyrfa Jeff yn y diwydiant mwyngloddio, ac yna bu’n gweithio i Gyd Bwyllgor Addysg Cymru fel Pennaeth yr Uned Ased i Ddiwydiant.

 

Mae ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Trinity Fields, yn Aelod o Lys Prifysgol Caerdydd a bu ar Fwrdd Rheolwyr Coleg Ystrad Mynach. Mae Jeff hefyd yn aelod corfforaethol o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad.

 

Cefndir gwleidyddol

 

Etholwyd Jeff i’r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2003.

 

Cyn cael ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ym mis Mai 2011, bu Jeff yn gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru gyfan ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol. Sefydlodd a bu’n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Amgylchedd Adeiledig, y Grŵp Trawsbleidiol ar Fyw’n Iach, y Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes ac mae’n un o sefydlwyr ac yn gyn-gyd-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai. Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredol Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.

 

Bu Jeff yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac mae wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, y Pwyllgor Menter a Dysgu a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

Ymgysylltiadau

 

Mae Jeff yn aelod o UNITE the union, a chyn i’r Prif Weinidog ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau, bu’n gwasanaethu fel cydgysylltydd grŵp UNITE yr Aelodau Cynulliad Llafur.

 

Bywgraffiad fideo

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help