Plaid: Plaid Cymru
Etholaeth: Dwyfor Meirionnydd
Cyfeiriad Swyddfa:
7 Bank Place
Porthmadog
LL49 9AA
Ffôn: 01766 515028
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8709
E-bost: Dafydd.Elis-Thomas@Cymru.gov.uk
Dafydd Elis-Thomas oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ym Mai 2007, ar ôl cynrychioli Meirionnydd Nant Conwy rhwng 1999 a 2007. Roedd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd rhwng 1974 a 1983 a dros Feirionnydd Nant Conwy rhwng 1983 a 1992. Pan adawodd Dŷ’r Cyffredin, cafodd ei enwebu i Dŷ’r Arglwyddi yn 1992, a’i benodi yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1993 a 1999. Mae wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac yn mwyhau treulio ei amser hamdden yn cerdded mynyddoedd, a loncian o’r bwthyn teuluol ger Betws y Coed.
Cafodd ei ethol gan ei gydweithwyr i fod yn ‘Llywydd’ y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, 2003 a 2007, ac wedi arwain gwelliannau a diwygiadau yn ffyrdd y Cynulliad o weithiol. Mae’r rhain yn cynnwys Pwyllgor Deisebau hygyrch, rheolau sefydlog clir a newydd, ac ymgyrch ‘Pleidleisio 2011’ er mwyn hybu pleidleiswyr ifanc i gofrestru. Cyflwynodd hefyd ddeddf newydd i sicrhau bod amodau gwaith staff a chyflogau Aelodau’r Cynulliad yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Tâl annibynnol, yn ogystal â Chomisiynydd Safonau annibynnol er mwyn hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad.
Fel cyn ymchwilydd ac athro mewn addysg oedolion ac addysg uwch, mae’n parhau i fod mewn cysylltiad agos gyda Phrifysgol Bangor fel Canghellor, a gyda Choleg Llandrillo, lle mae’n Llywydd. Mae’n Is Lywydd Apêl Eryri'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd’n buddsoddi mewn ffermio cynaliadwy a chadwraeth yn Eryri. Mae’n weithgar gyda’r Eglwys yng Nghymru.
Mae Dafydd bellach yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn llefarydd y Blaid ar Faterion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol.