Pobl y Senedd

Edwina Hart

Edwina Hart

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Edwina Hart

Bywgraffiad

Roedd Edwina Hart yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Edwina Hart ei geni a’i magu yn Nhre-gŵyr, Abertawe, lle mae’n byw gyda’i gŵr a’i merch.

Cefndir proffesiynol

Edwina oedd Llywydd benywaidd cyntaf BIFU (undeb fancio sydd bellach yn rhan o Unite), ac aeth ymlaen i gadeirio TUC Cymru. Mae Edwina wedi gwasanaethu fel aelod o Gyngor Darlledu Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth a Fforwm Economaidd Gorllewin De Cymru. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o ‘Chwarae Teg’ - sefydliad sy’n hybu rôl menywod yn y gweithle.

Cafodd Edwina MBE ym 1998 am wasanaethau i fudiad yr undebau llafur.

Cefndir gwleidyddol

Mae Edwina wedi bod yn Aelod Cynulliad Gŵyr ers etholiad cyntaf y Cynulliad ym 1999. Ar ôl gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cyllid cyntaf y Cynulliad, cafodd y swydd ei newid yn 2000 i gynnwys cyfrifoldeb dros lywodraeth leol, felly daeth yn Weinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2003, cafodd ei phenodi’n Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio a phenodwyd Edwina yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mai 2007. Ar ôl cael ei hailethol ym mis Mai 201, cafodd ei phenodi’n Weinidog dros Fusnes, Menter a Thechnoleg.

Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw cyfle cyfartal a datblygu economaidd.

Ymgysylltiadau

Mae’n aelod o Community, yr undeb bywyd, ac yn aelod o’r undeb UNITE.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Edwina Hart