Plaid: Plaid Cymru
Etholaeth: Ceredigion
Cyfeiriad Swyddfa:
Ty Goronwy
32 Heoly Wig
Aberystwyth
SY23 2LN
Ffôn: 01970 624516
Ffacs: 01970 624473
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-bost: Elin.Jones@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Ganed Elin ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Aeth i Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl derbyn gradd BSc mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, derbyniodd radd MSc mewn Economeg Gwledig o Brifysgol Aberystwyth.
Cefndir proffesiynol
Mae Elin wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr gyda Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.
Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98. Elin oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.
Mae Elin yn byw yn Aberystwyth ac yn mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a darllen ac roedd hi hefyd yn aelod o’r grŵp poblogaidd Cwlwm. Mae hefyd yn aelod o gor ABC Aberystwyth. Yn 2009, ennillodd Elin wobr Pencampwr Ffermio Prydain y Farmers Weekly yn ogystal â gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Elin i’r Cynulliad ym mis Mai 1999 ac yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd. Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006 pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig.