Huw Lewis

Teitl: Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Merthyr Tudful a Rhymni

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
Venture Wales Building, Room D1
Merthyr Industrial Park
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4DR

Ffôn:  01443 692299

Ffacs:  01443 691847

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  029 2089 8752

E-bost:  Huw.Lewis@Cymru.gov.uk

Tymhorau swydd

  • 07/05/1999 - 30/04/2003
  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 -

Gwybodaeth ychwanegol

Cafodd Huw Lewis ei ethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol.

 

Cefndir personol

 

Cafodd Huw Lewis ei eni a’i fagu ym mhentref Aberfan. Mae’n byw ym Merthyr Tudful gyda’i wraig Lynne Neagle (Aelod Cynulliad Tor-faen) a’u dau blentyn. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin.

 

Cefndir proffesiynol

 

Mae Huw wedi gwasanaethu ar fforwm polisi Llafur Cymru ac mae’n un o gyfranogwyr blaenllaw melin drafod wleidyddol Cymru, Wales 20:20. Mae hefyd wedi ysgrifennu i’r Sefydliad Materion Cymreig a Sefydliad Bevan.

 

Cefndir gwleidyddol

 

Cafodd Huw ei ethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni ym 1999, a bu’n gwasanaethu, gyntaf, fel Chwip y Llywodraeth ac yna fel y Dirprwy Weinidog dros Addysg. Ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2007, bu’n gwasanaethu am gyfnod byr fel y Gweinidog dros Adfywio cyn colli ei swydd oherwydd ei wrthwynebiad preifat i Lywodraeth glymblaid Llafur - Plaid Cymru.

 

Yn 2009, yn dilyn ymddiswyddiad Rhodri Morgan, ymgeisiodd Huw am arweinyddiaeth Llafur Cymru. Ar ôl ymgyrch aflwyddiannus yn y pen draw, dychwelodd Huw i’r Llywodraeth - gan gael ei benodi’n Ddirprwy Weinidog dros Blant ym mis Rhagfyr gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog newydd.

 

Ymgysylltiadau

 

Mae’n aelod o’r Blaid Gydweithredol, Cymdeithas Fabian, ac UNITE the Union.

 

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help