Teitl: y Dirprwy Lywydd
Plaid: Ceidwadwyr Cymreig
Rhanbarth: Canol De Cymru
Cyfeiriad Swyddfa:
29 High Street
Y Barri
CF62 7EB
Ffôn: 01446 733516
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8732
E-bost: David.Melding@Cymru.gov.uk
Hanes personol
Cafodd David, a aned yng Nghastell-nedd yn 1962, ei addysg yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin, Castell-nedd, Prifysgol Cymru Caerdydd a Choleg William a Mary yn Virginia, UDA.
Cefndir proffesiynol
Mae’n gyn-reolwr Cymdeithas Genedlaethol y Gofalwyr yng Nghymru ac yn gyn-ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwladol.
Hanes gwleidyddol
Cafodd David ei ethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar yr Economi a Thrafnidiaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Polisi’r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn flaenorol bu’n cadeirio Pwyllgorau Archwilio, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Safonau Ymddygiad y Cynulliad. Fel cyfarwyddwr polisi’r blaid, ysgrifennodd David faniffestos y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2003, 2007 a 2011.
Etholwyd David Melding yn Ddirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011.
Ymhlith ei ddiddordebau gwleidyddol mae plant sy’n derbyn gofal, iechyd meddwl a materion cyfansoddiadol.