Lynne Neagle

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Tor-faen

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
73 Upper Trosnant Street
Pontypool
NP4 8AU

Ffôn:  01495 740022

Ffacs:  01495 755776

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  029 2089 8151

E-bost:  Lynne.Neagle@Cymru.gov.uk

Aelodaeth

Tymhorau swydd

  • 07/05/1999 - 30/04/2003
  • 02/05/2003 - 02/05/2007
  • 04/05/2007 - 31/03/2011
  • 06/05/2011 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Cafodd Lynne Neagle ei hethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol.

 

 

Cefndir personol

 

Cafodd Lynne Neagle ei geni ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysgu yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Reading i astudio Ffrangeg ac Eidaleg. Mae’n briod â Huw Lewis, yr Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni, ac mae ganddynt ddau o feibion.

 

Cefndir proffesiynol

 

Cyn cael ei hethol i’r Cynulliad ym 1999, bu Lynne yn dal nifer o swyddi o fewn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Roedd yn Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a, hefyd, bu’n gweithio i Glenys Kinnock ASE.

 

Cefndir gwleidyddol

 

Roedd Lynne yn Gadeirydd y Grŵp Llafur yn y Cynulliad am gyfnod hir tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol y Cymoedd yn ne Cymru. Mae wedi arwain ymgyrchoedd blaengar ar faterion fel y nifer o bobl sy’n rhoi’r brechiad MMR i’w plant a gwasanaethau i blant anabl.

 

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help