Plaid: Ceidwadwyr Cymreig
Etholaeth: Mynwy
Cyfeiriad Swyddfa:
The Grange
16 Maryport Street
Brynbuga
NP15 1AB
Ffôn: 01291 674898
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1Na
Ffôn: 0292089 8735
E-bost: Nicholas.Ramsay@Cymru.gov.uk
Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) : www.nickramsay.org.uk/
Facebook : www.facebook.com/nickramsay
Twitter : twitter.com/@NickRamsayAM
Nid yw National Assembly for Wales yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol
Hanes personol
Mae Nick, a aned yn 1975, yn dod yn wreiddiol o Gwmbrân. Ar wahân i wleidyddiaeth, mae Nick yn chwaraewr tennis brwd ac mae’n aelod o Glwb Tennis Cwmbrân. Mae hefyd yn dilyn rygbi yng Nghymru. Mae’n ymwneud â gwaith elusennol ac mae’n aelod o’r Clybiau Llewod Rhyngwladol.
Cefndir proffesiynol
Aeth Nick i Ysgol Gyfun Croesyceiliog cyn mynd ymlaen i Goleg Sant Ioan ym Mhrifysgol Durham lle gafodd Radd Gydanrhydedd mewn Saesneg ac Athroniaeth. Yn ddiweddarach cafodd Ddiploma Ôl-radd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Caerdydd.
Cefndir gwleidyddol
Cafodd Nick ei ethol yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Sir Fynwy ym mis Mai 2007 a bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus tan fis Hydref 2008 pan gafodd ei benodi’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Gyllid.
Mae Nick wedi gweithio’n flaenorol fel ymchwilydd i Nick Bourne, cyn- arweinydd plaid y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn hynny, bu’n gweithio i David Davies, cyn- Aelod Cynulliad Sir Fynwy.
Ymgysylltiadau
Mae’n llywodraethwr dwy ysgol, sef Ysgol Brenin Harri’r VIIIfed yn y Fenni ac Ysgol Gymuned Llandeilo Bertholau.