Teitl: Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: Castell-nedd
Cyfeiriad Swyddfa:
7 High Street
Pontardawe
Abertawe
SA8 4HU
Ffôn: 01792 869993
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8750
E-bost: Gwenda.Thomas@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Cafodd Gwenda Thomas ei geni yng Nghastell-nedd a’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Mae’n briod ac mae ganddi un mab. Mae’n gyn-gynghorydd cymuned a chyn-gynghorydd sir.
Cefndir proffesiynol
Arferai Gwenda fod yn was sifil, wedi gwasanaethu yng nghanghennau Llysoedd Sirol Adran yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd fel Swyddog Gweithredol, ac yna gyda’r Asiantaeth Fudd-daliadau.
Bu’n cynrychioli pentref Gwaun Cae Gurwen, lle mae’n byw, fel cynghorydd cymuned a sir am flynyddoedd lawer. Cafodd ei phenodi’n Gadeirydd Ppwyllgorau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar ôl ailstrwythuro llywodraeth leol, gan ddod y fenyw gyntaf i gadeirio pwyllgor mawr.
Nes iddi gael ei phenodi’n Weinidog yn 2007, roedd Gwenda’n Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gwaun Cae Gurwen.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Gwenda i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Yn ystod ei gyfra fel Aelod Cynulliad, mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad, wedi cadeirio adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru ac mae wedi bod yn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Mae ei diddordebau yn cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, materion plant, llywodaeth leol a’r sector gwirfoddol.