Teitl: Comisiynydd
Plaid: Plaid Cymru
Etholaeth: Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Cyfeiriad Swyddfa:
37 Wind Street
Rhydaman
SA18 3DN
Ffôn: 01269 597677
Ffacs: 01269 591334
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8055
E-bost: Rhodri.Thomas@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Ganed Rhodri yn Wrecsam ym 1953. Aeth i Brifysgolion Cymru, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan. Mae’n weinidog yr Efengyl a hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni. Mae hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Rhodri i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys amaeth a’r economi wledig, Ewrop, a materion cymdeithasol a thrafnidiaeth. Pan benderfynwyd ar lywodraeth glymbleidiol rhwng Llafur a Phlaid Cymru ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Rhodri yn Weinidog dros Dreftadaeth, ond ymddiswyddodd o’r swydd yn 2008. Yn dilyn ei ymddeoliad o’r swydd honno, aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.
Ymgysylltiadau
Bu Rhodri yn Gadeirydd CND Cymru, yn lefarydd Cymru dros Fusnesau Preifat ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cyswllt Canolbarth a De Cymru NSPCC Cymru. Mae Rhodri hefyd wedi bod yn Gadeirydd ar lywodraethwyr ysgol.