Plaid: Llafur Cymru
Rhanbarth: Canolbarth a Gorllewin Cymru
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Rhif Ffôn Busnes: 029 2089 8614
E-bost: Joyce.Watson@Cymru.gov.uk
Cefndir
personol
Mae Joyce Watson yn briod ac mae ganddi dri o blant ac un ŵyr. Cafoddei haddysgu yn Ysgol Maenorbŷr, Ysgol Cosheston, Ysgol Gyfun Aberteifi a Choleg Sir Benfro cyn astudio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae wedi rhedeg nifer o fusnesau, gan gynnwys tafarndai, bwytai a siopau manwerthu yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Cefndir proffesiynol
Joyce oedd yr unig aelod benywaidd ar Gyngor Sir Penfro, yn cynrychioli ward o fewn etholaeth Preseli Sir Benfro rhwng 1995 a 2004.
Roedd hefyd yn rheolwr Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru gyda chylch gwaith Cymru gyfan, ac roedd yn uwch aelod o Grŵp Cyllidebau ar sail Rhyw, Cymru a Grŵp Cyfeirio Cydraddoldeb y GIG.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Joyce i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2007, ac mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys cynaliadwyedd, datblygu economaidd, llywodraeth leol, cydraddoldeb, trafnidiaeth wledig a diogelwch ar y ffyrdd.