Plaid: Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Etholaeth: Brycheiniog a Sir Faesyfed
Cyfeiriad Swyddfa:
4 Water Gate
Aberhonddu
LD3 9AN
Ffôn: 01874 625739
Ffacs: 01874 625635
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8743
E-bost: Kirsty.Williams@Cymru.gov.uk
Kirsty Williams AC
Brycheiniog a Sir Faesyfed (Democratiaid Rhyddfrydol)
Cefndir personol
Ganed Kirsty yn Taunton i rieni o Gymru. Pan oedd yn dair oed, symudodd ei rhieni yn ôl i Gymru a chafodd ei magu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin. Erbyn hyn, mae Kirsty yn byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’u tair merch ifanc.
Cefndir proffesiynol
Derbyniodd ei haddysg yn ysgol gynradd y pentref yn Sir Gaerfyrddin ac yn Ysgol St Michael, Llanelli. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Manceinion a Phrifysgol Missouri, cyn gweithio yng Ngholeg Sir Gâr a gweithio i gwmni bach yng Nghaerdydd fel Swyddog Marchnata Gweithredol.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Kirsty Williams i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Ym mis Rhagfyr 2008 daeth yn arweinydd ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru a hi yw’r arweinydd fenywaidd gyntaf ar unrhyw un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru. Mae wedi cadeirio’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.
Ymgysylltiadau
Dim