Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: De Caerdydd a Phenarth
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Rhif Ffôn Busnes: 0292089 8276
E-bost: Vaughan.Gething@Cymru.gov.uk
Cafodd Vaughan Gething ei ethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol
Cefndir personol
Cafodd Vaughan Gething ei eni yn Zambia a’i fagu yn Dorset. Cafodd ei addysgu ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae bellach yn byw yn Butetown gyda’i wraig Michelle. Mae Vaughan wedi ymddeol o griced, fwy neu lai, ac yn cefnogi rygbi a phêl-droed.
Cefndir proffesiynol
Mae Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gyn-bartner yn Thompsons. Mae’n aelod o’r undebau GMB ac Unite, a Vaughan oedd Llywydd ieuengaf erioed y TUC yng Nghymru. Mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel cynghorydd sir a llywodraethwr ysgol. Mae hefyd wedi bod yn wirfoddolwr gwasanaethau cymunedol - gan gynorthwyo myfyriwr oedd yn dioddef o barlys yr ymennydd a gofalu amdano. Mae hefyd yn gyn-Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Cefndir gwleidyddol
Rhwng 1999 a 2001, bu Vaughan yn gweithio fel ymchwilydd i’r cyn-Aelodau Cynulliad Val Feld a Lorraine Barrett. Rhwng 1999 a 2001, Vaughan oedd Cadeirydd Right to Vote, sef prosiect trawsbleidiol i annog mwy o bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Ymgysylltiadau
Mae Vaughan yn gyn-lywodraethwr ysgol ac yn aelod o’r Blaid Gydweithredol.