Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: Llanelli
Cyfeiriad Swyddfa:
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL
Ffôn: 01554 774902
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2082 1997
E-bost: Keith.Davies@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Cafodd Keith Davies ei eni yng Ngwaun-Cae-Gurwen a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd ymlaen i astudio Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei wraig yn gweithio i Tinopolis ac mae eu dau fab yn mynd i Ysgol y Strade.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl ennill ei gymhwyster fel athro, bu Keith yn gweithio mewn swyddi uwch mewn ysgolion a cholegau cyn dechrau ar ei yrfa wleidyddol mewn llywodraeth leol, yn gyntaf fel arolygydd ysgolion ac yn y pen draw yn gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol a Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod ei gyfnod yn arolygydd, bu’n cynrychioli De Cymru a Gorllewin Lloegr ar Gymdeithas Genedlaethol yr Arolygwyr a Chynghorwyr Addysgol.
Cefndir gwleidyddol
Bu Keith yn cynrychioli Ward Hengoed ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2004 a 2008. Arhyn o bryd, mae’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ar Bwyllgor Gweithredol Cymru.
Ymgysylltiadau
Mae Keith yn Llywodraethwr Ysgol Gymunedol Ffwrnes ac Ysgol Gyfun y Strade. Mae hefyd yn aelod o’r Blaid Gydweithredol.