Plaid: Ceidwadwyr Cymreig
Etholaeth: Sir Drefaldwyn
Cyfeiriad Swyddfa:
13 Parker's Lane
Y Drenewydd
SY16 2LT
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 0292089 8733
E-bost: Russell.George@Cymru.gov.uk
Hanes personol
Ganed Russell yn y Trallwng yn 1974 ac fe’i magwyd yn Sir Drefaldwyn lle mynychodd yr ysgol. Mae ganddo radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a’r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr.
Cefndir proffesiynol
Mae’n berchen busnes manwerthu yng nghanol y Drenewydd.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Russell ei ethol ar Gyngor Sir Powys yn 2008 i gynrychioli ward Canol y Drenewydd. Cafodd ei ethol gan grŵp Ceidwadwyr Cymreig y Cyngor Sir i fod yn un o’i gynrychiolwyr ar Fwrdd Rheoli Gweithredol y Cyngor (2008 - 2011) lle daliodd y portffolio dros Wasanaethau Cwsmeriaid a TGCh.
Diddordebau gwleidyddol
Ymhlith diddordebau gwleidyddol Russell mae trafnidiaeth, diogelu amgylchedd Cymru, llywodraeth leol ac adfywio cymunedol.
Diddordebau personol
Ymhlith diddordebau personol Russell mae cadw’n iach; bu’n aelod o’r gampfa leol a’r clwb hyfforddiant cylchol am dros 10 mlynedd ac mae wedi dechrau ymddiddori mewn beicio’n ddiweddar. Mae’n aelod gweithgar o Eglwys Gymunedol Hope yn y Drenewydd a bu ynghlwm â llawer o brosiectau i gefnogi’r gymuned.
Cysylltiadau
Mae Russell yn llywodraethwr Ysgol Feithrin a Babanod Ladywell Green ac mae ar Fwrdd Coleg Powys ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.