Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: Pontypridd
Cyfeiriad Swyddfa:
GMB House
Morgan Street
Pontypridd
CF37 2DS
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8134
E-bost: Mick.Antoniw@Cymru.gov.uk
Cafodd Mick Antoniw ei ethol yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol
Cefndir personol
Cafodd Mick Antoniw ei eni yn Reading a symudodd i Gymru i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1973, ac mae wedi byw yng Nghymru ers hynny. Mae Mick yn siarad Wcreineg, gan fod ei dad yn ffoadur o’r Wcrain ar ôl y rhyfel.
Mae’n briod ac mae wedi mabwysiadu tri phlentyn. Mae hefyd yn gyn riant maeth. Mae ganddo radd LLB.
Cefndir proffesiynol
Ym 1980, enillodd Mick ei gymhwyster fel cyfreithiwr, ac mae’n gyn bartner yn y cwmni cyfreithwyr Thompsons, yn arbenigo mewn achosion yn ymwneud ag anafiadau i’r meingefn ac anafiadau i’r pen a dynladdiad corfforaethol. Mae’n gymrodor Cymdeithas y Gyfraith Anaf Personol ac yn aelod o’r Gymdeithas Association of Trial Lawyers of America. Mae wedi darlithio’n eang ym maes iechyd a diogelwch a diwygio’r gyfraith.
Cefndir hanesyddol
Rhwng 1977 a 1979, Mick oedd Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Cymru). Rhwng 1981 a 1989 roedd yn aelod o Gyngor Sir De Morgannwg. Mae’n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan, yn un o ymddiriedolwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yn Is-Lywydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Brynsadler ym Mhontyclun, ac yn Is-Lywydd er anrhydedd yr elusen Seren i’r digartref.
Ymgysylltiadau
Mae Mick yn aelod o Gwreiddiau Llafur Cymru, y Blaid Gydweithredol, GMB a’r Musicians’ Union.