Mike Hedges

Plaid: Llafur Cymru

Etholaeth: Dwyrain Abertawe

Gwybodaeth gyswllt

Cyfeiriad Swyddfa: 
97 Pleasant Street
Morriston
Abertawe
SA6 6HJ

Ffôn:  01792 790621

Cyfeiriad Cynulliad: 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Ffôn:  0292089 8317

E-bost:  Mike.Hedges@Cymru.gov.uk

Aelodaeth

Tymor swydd

  • 06/05/2011 -

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Gwybodaeth ychwanegol

Cefndir personol

 

Mae Mike Hedges wedi byw yn Nhreforys ers blynyddoedd lawer, ond cafodd ei eni ym Mhlasmarl. Mae’n briod ag Anne ac mae ei ferch, Catrin, yn mynd i Ysgol Gyfun Bryntawe. Aeth i Ysgolion Plasmarl, Parklands a Penlan, ac yna i Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

 

Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys chwaraeon a’r Eisteddfodau Cenedlaethol a’r Urdd.

 

Cefndir proffesiynol

 

Gwyddonydd ymchwil i Ddur Prydain ym Mhort Talbot oedd Mike yn wreiddiol, ond mae wedi treulio’r 27 mlynedd diwethaf yn darlithio ym maes cyfrifiaduron ym Mhontypridd.

 

Cefndir gwleidyddol

 

Mae Mike wedi cynrychioli ward Treforys ar Gyngor Abertawe ers 1989 ac mae wedi dal nifer o swyddi ar y cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae’n is-gadeirydd pwyllgor craffu ac mae wedi bod yn llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.

 

Gyda’i ddiddordeb brwd ym maes addysg, mae Mike wedi bod yn Llywodraethwr Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, Ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys a Choleg Abertawe, ac ar hyn o bryd mae’n gadeirydd llywodraethwyr ysgolion cynradd Glyncollen ac Ynystawe.

 

Roedd yn un o gyfarwyddwyr anweithredol ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng 1999 a 2005. Mae diddordebau gwleidyddol Mike yn cynnwys addysg, iechyd, llywodraeth leol, darpariaeth chwaraeon ac amddifadedd cymdeithasol

 

Ymgysylltiadau

 

Mae Mae gan Mike ymgysylltiadau â Chyfeillion y Ddaear, Oxfam ac Amnest Rhyngwladol.

 

Etholiadau

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help