Plaid: Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Rhanbarth: Canolbarth a Gorllewin Cymru
Cyfeiriad Swyddfa:
3 Park Street
Newtown
Powys
SY16 1EE
Ffôn: 01686 625 527
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 0292089 8718
E-bost: William.Powell@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Aeth William Powell i Ysgol Talgarth ac Ysgol Uwchradd Gwernyfed, gan ennill ysgoloriaeth i astudio Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Almaeneg) yng Ngholeg Penfro, Rhydychen. Graddiodd ym 1986 ac mae bellach yn byw gyda’i deulu ar eu fferm organig yn y Mynyddoedd Du ger Talgarth, Powys.
Cefndir proffesiynol
Ac yntau’n athro cymwys, mae wedi addysgu Ffrangeg ac Almaeneg mewn nifer o ysgolion yng Nghymru a’r Gororau. Tan yn ddiweddar, roedd yn Bennaeth yr Adran Almaeneg yng Ngholeg Chweched Dosbarth Henffordd yn ogystal â bod yn Swyddog Ewropeaidd i’r Coleg.
Cefndir gwleidyddol
Mae William wedi bod yn Gynghorydd Sir yn Nhalgarth ers 2004.
Mae wedi bod yn weithgar ar brosiectau adfywio gwledig, gan gynnwys adfer Melin Talgarth, sef un o chwe phrosiect ledled y Deyrnas Unedig a enillodd gymorth ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr fel rhan o raglen Village SOS y BBC. Mae William yn gyn-aelod ac yn gyn-Gadeirydd ar y bwrdd sy’n gyfrifol am archwilio’r gwaith o graffu ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Tra’n aelod o’r bwrdd hwnnw, bu’n rhan o’r ymgyrch dros etholiadau uniongyrchol i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.
Roedd William hefyd yn aelod o’r bwrdd a sefydlodd Cymru yn Ewrop ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Mudiad Ewropeaidd Cyngor Cymru. Yn ogystal, mae William yn aelod o Gyngor Democratiaid Rhyddfrydol Ewropeaidd ac yn cyd-weithio’n agos â chwaer bleidiau Rhyddfrydol ar y cyfandir.
Ymgysylltiadau
Mae’n aelod o Undeb Amaethwyr Cymru a than yn ddiweddar roedd yn Ddirprwy Gadeirydd ar Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, sydd wedi’i lleoli ym Machynlleth. Mae’n aelod o gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarth ac Ysgol Uwchradd Gwernyfed. Mae William yn aelod o Gymdeithas Lloyd George, ac aelod o bwyllgor y gymdeithas honno