Plaid: Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Rhanbarth: Gogledd Cymru
Cyfeiriad Swyddfa:
18 Stryd Fawr
Johnstown
Wrecsam
LL14 2SN
Ffôn: 01978 843300
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 0292089 8129
E-bost: Aled.Roberts@Cymru.gov.uk
Gwefan (y tu allan i'r Cynulliad) : www.aledroberts.org.uk
Facebook : www.facebook.com/pages/Aled-Roberts-AM/208885689161259
Twitter : www.twitter.com/aledrobertsam
Nid yw National Assembly for Wales yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol
Cefndir personol
Bu Aled Roberts yn ddisgybl yn Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Priododd Llinos ym 1993, ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl ennill ei gymhwyster proffesiynol i fod yn gyfreithiwr, bu Aled yn arfer ei grefft yn Wrecsam, lle y daeth yn bartner, ond rhoddodd y gorau i’w waith fel cyfreithiwr pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005.
Mae’n gyn-gadeirydd Cynllun Craff am Wastraff, a bu hefyd yn aelod o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Cyn cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, roedd Aled hefyd yn Gadeirydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a bu’n gwasanaethu fel cynrychiolydd Cymru ar Weithgor Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol y DU.
Aled oedd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Dai rhwng 2005 a 2011, ac yn 2008, cafodd gyfrifoldeb ychwanegol pan gafodd y portffolio ei ymestyn i gynnwys yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Gwastraff.
Cefndir gwleidyddol
Mae Aled wedi chwarae rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth ers 1985, pan gynhaliwyd ymgyrch lwyddiannus i arbed Sefydliad y Glowyr yn y Rhos.
Bu Aled yn cynrychioli Ward Rhos a Ponciau ar Gyngor Wrecsam o 1991 nes iddo roi’r gorau iddi yn 2012. Roedd yn Faer Wrecsam yn ystod y cyfnod 2003-04 ac yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng mis Mawrth 2005 a mis Mai 2011.
Ym mis Tachwedd 2007,
cafodd Aled ei enwi’n
“Gynghorydd y Flwyddyn” yng
ngwobrau Gwleidydd y Flwyddyn
ITV Cymru.
Yn y Cynulliad, Aled yw
Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru, Llefarydd Plant
a Phobl Ifanc a Llefarydd y
Gymraeg. Mae hefyd yn eistedd ar y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
a’r Pwyllgor Plant a Phobl
Ifanc.