Plaid: Ceidwadwyr Cymreig
Rhanbarth: Gorllewin De Cymru
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Rhif Ffôn Busnes: 029 2089 8883
E-bost: Suzy.Davies@Cymru.gov.uk
Hanes personol
Mae Suzy yn briod ac mae ganddi ddau fab. Ar ôl dilyn gyrfa mewn marchnata a rheoli, aeth yn gyfreithiwr.
Cefndir proffesiynol
Mae wedi ei hyfforddi fel mentor i weithio gyda throseddwyr ifanc a theuluoedd sy’n agored i niwed ac mae wedi mentora gyda Prime Cymru. Bu Suzy hefyd yn ymddiriedolwr nifer o brosiectau plant ac mae wedi gwirfoddoli gyda grwpiau cymorth cymunedol. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer amryw o gyhoeddiadau ac roedd yn un o aelodau sylfaenol bwrdd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru.