Teitl: Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Plaid: Llafur Cymru
Etholaeth: Rhondda
Cyfeiriad Swyddfa:
Oxford House
Dunraven Street
Tonypandy
CF40 1AU
Ffôn: 01443 685261
Cyfeiriad Cynulliad:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8784
E-bost: Leighton.Andrews@Cymru.gov.uk
Cefndir personol
Cafodd Leighton Andrews ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu yn y Barri a Dorset. Mae ganddo radd BA (Anrhydedd) mewn Saesneg a Hanes o Brifysgol Cymru, Bangor ac MA mewn Hanes o Brifysgol Sussex. Roedd Leighton yn athro gwadd ym Mhrifysgol Westminster rhwng 1997 a 2002, ac mae’n athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cefndir proffesiynol
Mae Leighton wedi gweithio fel swyddog seneddol a chyfarwyddwr ymgyrchoedd i lawer o elusennau, yn ogystal â gweithio fel ymgynghorydd materion cyhoeddus yn y sector preifat.
Roedd yn bennaeth materion cyhoeddus BBC Cymru rhwng 1993 a 1996 a bu hefyd yn gweithio fel darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd. Mae’n gyn-aelod o fwrdd Tai Cymru.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Leighton i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Yn ystod ei dymor cyntaf yr oedd yn aelod o’r Pwyllgorau Addysg, Diwylliant a Datblygu Economaidd. Cafodd ei ailethol ym mis Mai 2007, ac ymunodd, wedyn, â Llywodraeth Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion tai. Pan ffurfiwyd y llywodraeth glymblaid Cymru’n Un ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Leighton yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, yn gweithio o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ac yn yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Yn 2009, cafodd ei benodi yn Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ym mis Mai 2011, cafodd ei benodi yn Weinidog dros Addysg a Sgiliau.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, yr economi, diwylliant, tai, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.