Manylion y penderfyniad

Debate on the Health and Social Care Committee’s Report on The work of Healthcare Inspectorate Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad byr i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod tymhorau’r hydref-gaeaf 2013-14.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i ganolbwyntio ar:

  • Pa mor effeithiol yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth gyflawni ei phrif swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol.
  • Swyddogaethau ymchwilio ac archwilio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn benodol ei chyfrifoldebau o ran sicrhau bod gan gleifion fynediad i wasanaethau diogel ac effeithiol, a pha mor ymatebol ydyw i achosion o bryder difrifol a methiannau systematig.
  • Datblygiad ac atebolrwydd cyffredinol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gan gynnwys a yw’r sefydliad yn addas i’r diben.
  • Pa mor effeithiol yw perthnasau gwaith, gan ganolbwyntio ar gydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, rhanddeiliaid allweddol a chyrff adolygu eraill.
  • Ystyried rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran cryfhau llais cleifion a’r cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
  • Trefniadau diogelu, yn benodol trin chwythu’r chwiban a gwybodaeth am gwynion.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 790KB) ym mis Mawrth 2014. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 222KB) ym mis Mai 2014.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 4 Mehefin 2014.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

NDM5519 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2014

Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad