Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud gwaith
craffu ar ôl deddfu ar Fesur
Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn oedd i asesu'r modd y
caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith a'i weithredu, yn
benodol drwy:
- asesu i ba raddau y mae'r amcanion a bennwyd ar gyfer y Mesur yn cael
eu cyflawni;
- nodi a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu neu arfer da y gellir ei
rannu yn sgil y gwaith o lunio a gweithredu'r Mesur a'r is-ddeddfwriaeth a
chanllawiau cysylltiedig; ac
- asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn
parhau i wneud hynny.
Yr egwyddorion sy'n sail i'r cylch gorchwyl yw:
- gweld a yw'r ddeddfwriaeth yn gweithio yn ymarferol yn ôl y bwriad;
- cyfrannu at ddeddfwriaeth well;
- gwella'r ffocws ar weithredu a chyflawni amcanion polisi; a
- nodi a lledaenu arfer da fel y gellir dysgu gwersi gan lwyddiannau a
methiannau a ddatgelwyd gan y gwaith craffu; ac
- asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian ac a fydd yn
parhau i wneud hynny.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 657KB).
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF, 708KB) yn Ionawr 2015.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 146KB) yn Chwefror 2015.
Dadl
yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar
4
Mawrth 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5709 David Rees (Aberafan)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl
deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
15 Ionawr 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.
The motion was agreed in accordance with
Standing Order 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 05/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad